Teitl y Grŵp Trawsbleidiol: |
Y Lluoedd Arfog a’r Cadetiaid |
Dyddiad y cyfarfod: |
13 Gorffennaf 2022 |
Lleoliad: |
Cyfarfod rhithwir
|
Enw: |
Teitl: |
Darren Millar AS
|
Cadeirydd ac Aelod Gorllewin Clwyd |
Jack Sargeant AS |
Aelod Alun a Glannau Dyfrdwy |
Altaf Hussain AS |
Aelod De Orllewin Cymru |
James Evans AS |
Aelod Brycheiniog a Sir Faesyfed |
Peter Fox AS |
Aelod Sir Fynwy |
Mark Isherwood AS |
Aelod Gogledd Cymru |
Y Cyrnol James Phillips |
Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru |
Y Brigadydd Jock Fraser |
Y Llynges Frenhinol |
Y Brigadydd Andrew Dawes |
Comander Brigâd 160 |
Peter Evans |
Llywodraeth Cymru |
Peter Kellam |
Llywodraeth Cymru |
Lisa Rawlings |
Swyddog Cyswllt Rhanbarthol Cyfamod y Lluoedd Arfog |
Millie Taylor |
Cynorthwyo Plant Milwyr yn Ysgolion Cymru (SSCE Cymru) |
Curtis Shea |
Yr ysgrifenyddiaeth |
Awyr Lefftenant Ella Fortune |
RAF |
Tom Livesey |
Swyddfa Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig |
Emma Perrin |
Ffederasiwn Teuluoedd y Fyddin |
Emilia Douglass |
Swyddfa Laura Anne Jones |
Harry Saville |
Swyddfa Sam Rowlands |
Dominic Morgan |
RFCA |
Julian North |
Help for Heroes |
Enw: |
Teitl: |
Alun Davies AS |
Is-Gadeirydd ac Aelod Blaenau Gwent |
Laura Anne Jones AS |
Aelod De Ddwyrain Cymru |
Llyr Gruffydd AS |
Aelod Gogledd Cymru |
Comodor yr Awyrlu Dai Williams |
Swyddog Awyr Cymru (RAF) |
1. Cyflwyniad ac ymddiheuriadau
2. Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol
• Cafodd Darren Millar AS ei ailethol yn unfrydol yn Gadeirydd. • Cafodd Alun Davies AS ei ailethol yn unfrydol yn Is-gadeirydd. • Cafodd Curtis Shea ei ailethol yn unfrydol yn Ysgrifennydd.
3. Y wybodaeth ddiweddaraf
• Diolchodd y Cadeirydd y Brigadydd Jock Fraser yn dilyn ymweliad Cynllun Lluoedd Arfog y Senedd â chyfleuster y Llynges Frenhinol yn Nhalybont. Diolchodd y Brigadydd Jock Fraser i'r aelodau a fu ar yr ymweliad a nododd fod yr hyfforddwyr yn y cyfleuster yn ddiolchgar eu bod wedi rhoi o’u hamser i fynd yno.
• Rhoddodd y Cadeirydd deyrnged i Janet a Cerys sy’n gadael tîm y lluoedd Arfog yn Llywodraeth Cymru.
4. Blaenraglen waith
• Rhoddodd y Cadeirydd wybod i'r grŵp fod pwyllgor gwaith y Grŵp Trawsbleidiol wedi cyfarfod a chytuno ar flaenraglen waith i lywio gwaith y grŵp tan fis Mai 2026.
• Anogwyd yr aelodau i roi adborth ar y rhaglen drwy gysylltu ag Ysgrifennydd y grŵp.
5. Cyflwyniad a sesiwn holi ac ateb gyda'r Cyrnol James Phillips, Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru (y Comisiynydd)
• Croesawodd y Cadeirydd y Comisiynydd i'r cyfarfod gan ddiolch iddo am ddod i siarad â'r grŵp.
• Siaradodd y Cyrnol James Phillips am ei gefndir a’r gwaith yr oedd wedi bod yn ei wneud yn y chwe wythnos y bu’n cyflawni’r rôl.
• Diolchodd y Comisiynydd Lywodraeth Cymru am weithio gydag ef, gan groesawu perthynas waith gynnes. Hefyd, diolchodd Gymuned ehangach y Lluoedd Arfog yng Nghymru sydd wedi bod yn groesawgar.
• Defnyddir y 100 diwrnod cyntaf yn y swydd fel cyfnod canfod ffeithiau. Hyd yn hyn, nodwyd materion ynghylch gwasanaethau pontio.
• Atebodd y Comisiynydd gwestiynau am gefnogi awdurdodau lleol i gyrraedd safon 'Aur' Cyfamod y Lluoedd Arfog, a chydweithio â Llywodraeth Cymru a Gweinidogion.
6. Diweddariad gan Millie Taylor, SSCE Cymru
• Rhoddodd Millie Taylor ddiweddariad i’r grŵp ar y prosiect Ysgolion sy’n Cefnogi'r Lluoedd Arfog. Nod y prosiect yw creu amgylchedd cadarnhaol i blant y Lluoedd Arfog rannu eu profiad ac annog ysgolion i ymwneud yn fwy â chymuned y Lluoedd Arfog.
• Bydd y prosiect yn annog ysgolion i ddewis hyrwyddwyr ar gyfer plant y Lluoedd Arfog o blith y disgyblion, datblygu dealltwriaeth o anghenion unigryw plant y Lluoedd Arfog ac ymgysylltu ag SSCE Cymru a Chymuned y Lluoedd Arfog. Mae tair lefel o wobr ar gael, sef Efydd, Arian ac Aur.
• Mae 10 o ysgolion eisoes wedi gwneud cais am y wobr, a gwelwyd cryn amrywiaeth o ran nifer y disgyblion sy’n blant y Lluoedd Arfog. Mae lefel yr ymgysylltiad wedi bod yn galonogol.
• Cytunwyd i ychwanegu addysg fel pwnc at flaenraglen waith y grŵp.
7. Unrhyw fater arall
• Diolchodd Darren bawb a oedd yn bresennol a dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at gydweithio â'r grŵp wrth symud ymlaen.
• Rhannwyd dyddiadau cyfarfodydd yn y dyfodol â'r grŵp. |